Darn crispy’r lasagna.
Achos miloedd o frwydrau teuluol dros y canrifoedd. Mor werthfawr ei fod o’n bryd yn ei hun yn un o fwytai gorau’r byd – Osteria Francescana. Ma’r syniad ei hyn yn ddigon i dynnu deigryn i’r llygad a dŵr i’r danned.
Heddiw felly, ‘da ni am fod yn sianelu Massimo Bottura, yn ceisio creu all-crispi lasagna, efo dim o’r nonsens sdodgy ‘na yn y canol.
Darllenwch ymlaen am y stori llawn
‘Dwi ‘di bo’n edrych am all-crispy lasagna ers amser.
Nid yn unig ydi o’n dod a rhan gorau’r lasagna i’r gad, ond ‘ma fwy ymarferol. Breuddwyd i mi yw medru mynd i’r oergell, cynhesu bolonaise yn syth yn y ficrodon, a’i osod yn ddel rhwng haenau pasta, heb orfod disgwyl am awr i’w ail bobi, neu orfod dadmer lasagna llawn a dioddef y llanast gwlyb stodgy ma’ ficrodon a’r ffwrn yn ei droi o fewn i.
Na, ‘dwi ‘sho lasagna ffres ‘drai neud mewn 5 munud.
‘Dwi ‘sho’r amhosib’
Er yr holl chwilio, does dal ddim rysáit da efo fi. Mi ‘dwi ‘di trio lasagna Byron Talbot, efo haenau pasta ffres wedi eu ffrio a’i gorffen efo haen o Rioctta, a nid Bachemel. Ond i fod yn onest, mi roedd y pasta ‘crispy‘ mwy fel papadom na parmesan crisp.
‘Dwi hyd yn oed wedi ceisio cael gafael ar dechneg Massimo, y dyn ei hun, o wneud y pryd, ond y peth agosaf i rysáit ges i fanno oedd riw fideo gan y New York Times o’r boi’n cwcio mewn siambr wrthsain yn recordio rhiw fersiwn ASMR o’r rysáit yn rhestru’r holl synau ti angen i grispio lasagna.
Grêt.
Mi roedd hi’n arbrawf i mi felly doedd. I geisio creu lasagna sy’n crispi drwyddo, ond sydd ddim yn blasu fel gwaelod bag prawn cracers. Digon hawdd, felly ffwrdd a ni.
Arbrawf 1: Haenau lasagna wedi’ berwi, yn y ffwrn efo saws gwyn yn unig.
Modd
Ar gyfer yr arbrawf, mi gymerais i’r haenau pasta, eu berwi nes yn al dente cyn eu rhoi ar din a’u pobi ar 180°C am 15 munud.
Mi gafodd hanner yr haenau eu pobi efo Bachemel drostynt, a chafodd yr hanner arall gaws Ricotta drostynt yn lle.
Rysáit Bachemel
Ychwanegwch flawd i sosban efo menyn tawdd, yn ei whisgio’n esmwyth a’i gwcio ( < 1 munud )
Hwn yw eich roux
- 40g menyn
- 20g blawd
I’r roux ychwanegwch lefrith cynnes, a’i gynhesu i bwynt berwi. ( ~ 2 funud )
Does ddim angen troi’r gymysgedd trwy gydol yr amser, ond bob hyn a hyn.
- 400g llefrith cynnes
- pinch halen
- pinch pupur
- pinch nytmeg
Mi fydd y saws yn barod i’w ddefnyddio cyn gynted ac mae o wedi gorffen cwcio.
Mi wnes i hefyd haneru’r samplau yma drwy roid mozzarella ar hanner ohonynt, i weld pa effaith oedd cael caws ychwanegol yn cael ar wead y pasta.
Canlyniad
Fel y gwelwch, llwyddiant…o riw fath.
Yr unig beth allai ddweud ydi efallai bod yr haenau braidd rhy debyg i ledr. Dim bod hynna’n beth drwg o angenrheidrwydd, jest bod nhw’n fwy o ddanteithfwyd, fel porc scratchins ella.
O ran y sawsus, mi wnaeth y Bachemel a’r Ricotta yn dda iawn. Jest digon o leithder efo nhw i’r pasta gael gorffen pobi, heb fod mor wlyb â i arbed yr haenau rhag crispio. Yn bersonol, y Bachemel oedd gorau, ond o’r ffaith ei fod ychydig gwlypach a’n fwy hyblyg o ran blas, tra bo’r Ricotta sych efo gwead bach rhy ronynnog i mi.
Ond yn y diwedd, roedd y ddau yn dda a jest dewis rhwng gwead a blas y saws a’r caws ydi hi.
Felly dyna chi felly, un ffordd o greu lasagne holl grispi, er, mae o yn peri’r cwestiwn;
Efallai bo’r fath beth a gormod o beth da…