Sgin ti basta?
Gwna besto.
Os oes pum munud efo chdi, hen morter a pheslt angen bach o wash, a basil su’n araf bach bach bwyta’ch sil ffenest, yna pesto ydi’r rysáit i chi!
Does yna’m pryd gwell, na mwy handi, na phasta ffres di drochi mewn pesto cartref. Peidiwch ag oedi felly, ma’ fideo ar gyfer te heno’n disgwyl amdanoch chi isod: Pasta Pesto Gwyrdd.
https://youtu.be/rep-Pb5Pd2g
Cymerwch olwg isod am y rysáit llawn a’r cynhwysion.
Wneith hwn ddigon i 1 person (llwglyd) neu fel pryd mwy ffansi i 2, felly croeso i chi gynyddu’r niferoedd i siwtio’ch blas.
I Wneud y Pesto
Malwch y garlleg a’r halen efo’i gilydd yn morter a phestl i greu past
- 1-2 darn garlleg
- 1/2 tsp halen
Ychwanegwch ddail basil i’r morter, yn eu gwasgu’n erbyn y morter nes eu bod nhw’n ddarnau mân, wedi rhyddhau hylif gwyrdd.
- 15g (bwns) o ddail Basil
Malwch y cnau pinwydd fewn i’r past basil, yn eu curo efo’r pestle i’w torri’n ddigon
mân i weithio.
- 15g o Gnau Pinwydd
Cymysgwch gaws wedi’ gratio fewn i’r past nes ei fod yn dew ond heb lympiau.
- 15g o Grana Padano
- 15g o Parmigiano Reggiano
Tywalltwch yr olew olewydd i mewn, yn ei droi nes bod y pesto o dewdra derbyniol.
Gair i gall; mi fydd hi’n haws defnyddio llwy yn hytrach na peslt ar gyfer hyn.
- 75ml Olew Olewydd
I’w Sdorio
Cadwch y pesto yn y fridge efo mymryn o olew ar ei ben, i’w amddiffyn rhag yr aer.
Y ffordd gorau i’w gadw yn y tymor hi, hyd at bythefnos, yw i’w gad mewn jar glan, ond os mae ond noson mae angen ei gadw, neith unrhyw botyn neu fowlen efo gyrchydd y tro.
A dyna chi! Gadech y pesto eistedd am awr neu ddwy i’r blas ga aeddfedu a pan ddaw amser te, fydd o’n barod i’w daflu ar eich past…neu bebynag da chi ffansi! Toasty pesto henno ia?
Mwy o Sdwff
Os ydych chi’n mwynhau’r naws Eidaleg ac angen mwy o ysbrydoliaeth, croeso i chi gael golwg ar ein Pasta Cartref i weld sut mae gwneud pasta eich hun. Neu, os da chi ar ôl mwy o syniadau te, ewch am ein Carbonara (go iawn) i chi gael blas o’r Eidaleg mewn llai na pum munud.