Pan oed Sadyrnau’n las…yn La Rochelle.
Taith lawr arfordir gorllewin Ffrainc yw ein hysbrydoliaeth heddiw, o bentref delfrydol La Rochelle. Y fi a’r cariad, ar wyliau delfrydol o haf, yn teithio Ffrainc i weld be oedd gan y wlad ei gynnig.
Mi laddodd o ni.
Erbyn diwedd y daith yn Bordeaux, prin medru cerdded i’r supremarche oeddem ni, heb sôn am ymweld â’r dref! Ma’ ‘na ramant i deithio yn does. Er mae’r gwirionedd yw eistedd am oriau maith unai’n disgwyl am fws, ar fws, neu wrth fws (os yn torri’r banc am fodd arall o drafnidiaeth). Yna, wedi cyrraedd y lle’r ydych yn mynd, mwy o eistedd. Eistedd eto, ar ochor gwely, wedi ymladd, o’ch holl eistedd.
Ond efallai bod i’n sinig.
Beth bynnag yw eich agwedd tuag at deithio, ‘dra chi’m dadlau bod angen seibiant bob hyn a hyn. Dyma oedd La Rochelle i ni.
Ynys o heddwch, dros lon i Île de Ré
Wedi ymweld â dau ffrind coleg mewn tair tref o fewn pedai niwrnod, mi roedd angen gwyliau arnom. Yn ffodus i ni, tref La Rochelle oedd y stop nesa ar ein taith, ac efo’r tywydd yn gwella, ‘sa nunlle ‘di gallu bo’n le gwell i dreulio ambell i ddiwrnod diog. Wrth gwrs, ‘dra chi’m cael tref delfrydol Ffrengig heb marchnad delfrydol Ffrengig, a ni cafom ein siomi.
Canllath o’r gwesty, roedd marchnad awyr agored La Rochelle, oedd yn digwydd bod yno bron i bob dydd am riw reswm. Caws, cig, ffrwythau ac wrth gwrs, bara, popeth ar ddangos i chi ga’ lafoerio drostynt efo’n pocedi gwag. Wel, nid gwag yn union, ond nid digon llawn chwaith iddo fo’n golchi’n Jonchée lawr efo Pineau des Charentes trwy dydd a nos.
Un peth oeddwn i yn medru fforddio ffitio i mewn i’r drefn foreol, oedd bara.
Bob bore, mi fyswn i’n deffro’n braf yn ein stafell dwll ben grisiau. Ar ôl taflu ar bâr o siorts gwylai haf, brasgamu byswn i, lawr ein tair rhes grisiau, heibio’n derbynnydd bach clên (“bonjour!”) ac allan i’r stryd oddi tannom. Yna, yn yr haul croesawgar boreol, mi fuaswn yn troi 90° yn fy unfan, a’n cymryd y 163 cam oedd angen i mi gyrraedd stondin anhygoel y pobydd.
Bonjour!
O mlaen i, lledaena ysbrydoliaeth llwyr, llu o greadigaethau pobydd. Miches, Epis, Pain de Campagne popeth fuasech yn disgwyl a mwy. Ond efo’r bol yn gwegio a hunain reolaeth nol yng Nghrymu, un peth oedd yn cymryd fy ffansi bob bore. Rôl brioche fach grwn, llawn caramel, ‘efo dim label ond y gair Gache. Rhyfeddod mod i ‘di drio fo o gwbl, ond mentro gwnes i a mentro’n dda (gofyn i’r dyn be’ oedd o? Peidiwch siarad yn wirion!).
Wedi syrthio mewn cariad efo’r fynsen anhysbys ‘ma, ond un peth oedd ar fy meddwl yn dod adra. Ail greu’r bun ‘ma, y Gache, beth bynnag oedd un o’r rheini i fod.
Nol yng Nghymru…
Ar ôl sesiwn drom o Googlo termau mor bendant ac eglur a “caramel filled brioche La Rochelle” a “bread traditional La Rochelle”, mi ddarganfyddais mae amrywiaeth ar Gâche Vendéenne oedd be oeddwn i’n gwirioni drosto. Bara tebyg iawn i frioche yw’r Gâche Vendéenne ond ei fod o’n cynnwys hufen yn o gystal â menyn ac wyau. Rhyfedd felly bod Gâche de Vendée yn cyfieithu’n uniongyrchol i ‘Wast Vendee’. Awgrymiad cryf bod ardal Vendée (jest tu allan i La Rochelle) ychydig gwell off na ‘Pesda yn y gorffennol os mae dyma oedd eu gwastraff!
Beth bynnag yw’r hanes, ‘drai’m dioch digon i’r becars gwastrafflyd na am greu’r Gâche Vendéenne. Am adael i mi, canrifoedd yn ddiweddarach, fwynhau rôl felys maint dwrn melys, ‘di stwffio efo caramel.
I frecwast.
O ydi, mae’r dyfodol yn felys iawn. Ond roedd dal un cwestiwn na all Google ei ateb:
Sut ar wyneb daear wnaethon nhw gael y caramel i mewn yna?
Dyma fy ymdrech i ateb hynny. Trwy gau toffi cartref mewn toes brioche, i drio pobi darn bach o La Rochelle, yma yng Nghrymu bach.
Sut i lenwi briche efo caramel
Gwyliwch y fideo isod i gael y syniad gorau o’r dechneg a ddefnyddiais i lenwi’r brioche ma’
Defnyddiais i’r un toffis a aeth i mewn i’r cruffins afal a tofi, ac mae rysáit a fideo trylwyr efo ni hefyd ar gyfer paratoi toes brioch.
Ymddiheuraf am yrru chi rownd y byd am ryseitiau. Ond ‘dwi’n knacked OK a ma’n waith cadw fynnu efo’r ryseitiau ‘ma! Caru!
Mesuriadau
Mi wneith hwn 6 rôl i chi
Torrwch a phwyswch eich toes brioche yn ddarnau 120g
- 720g o does brioche
Lluwchiwch arwyneb top ac esmwyth y darnau brioche efo blawd. Trowch nhw ben i lawr a gwasgwch ddarn toffi i mewn i’r wyneb gwaelod (wan ar i fynnu)
- 6 darn toffi (tua maint Thorntons Originals)
Lapiwch y toffi yn y brioche, yn ei ymestyn drosto a’n pinsio’r ymylon ar gau [0:43 – 1:00]
Rholiwch y parseli toes i mewn i bêl [1:00 – 1:08]
Gosodwch y rols ar din pobi ‘di leinio efo papur pobi, gorchuddiwch nhw mewn cling film a gadewch iddynt brofi am 2-3 awr
Unwaith mae’r rols ‘di profi, pobwch nhw ar 180°C efo stêm (dŵr berwedig mewn tin pobi ar lawr y ffwrn) (18 munud)
Gadewch i’r rols oeri ar rac
Mwy i Ddarllen
Fel ydych chi’n gwybod, ‘ma digonedd o ryseitiau ar y wefan, fel yr un brioche a’r cruffins ond mae hefyd erthygl fwy arbrofol am y caramel ar y ffordd, felly dilynwch ar Instagram a Facebook i gael newyddion hwnnw.