Cyfri’r dyddiau i’ch gwyliau nesaf yn y Med?
Wel, mae gennyf i rywbeth bach i’ch cario chi drwy’r misoedd oer yma. Beth ydw i wedi bod yn chwarae efo’n ddiweddar, yw’r saws Canoldirol gorau sydd yna: Tapenade.
Cewch y rysáit efo mesuriadau a chynhwysion isod.
Wneith hwn riw jar o saws. Digon i tua 4 platiad o basta, neu torth go hefty o fara.
Mi rydw i hefyd yn hysbys o’r ffaith mae capers ac anchovis, nid tomatos sy’n gwneud tapenade traddodiadol, ond mi fydd raid i chi fy esgysodi am ddewis tomatos neis, yn hytrach na pysgod bach esgyrnog blodau ‘di’ piclo!
Paratoi eich cynhwysion
Torrwch y tomatos sych, olewydd, a’r garlleg.
Does yna ddim angen eu torri’n rhy fân, ond eu bod digon bach i’w rhoi trwy blendar.
- 2 clof garlleg
- 20 olewydd
- 200g tomatos sych
Gwasgwch y sudd o’ch lemon a gratiwch y sest.
- 1 lemon
I wneud y saws
Rhowch eich holl gynhwysion mewn jwg ochor uchel.
Mi wneith y jwg ochor sicrhau bod popeth yn cael ei blendio’n iawn gyda’r blendar llaw.
- garlleg mân
- olewydd mân
- tomatos sych mân
- sudd a sest 1 lemon
- 1 tbsp / 15ml finegr gwin gwyn/coch
Gyda blendar llaw, cymysgwch y cynhwysion i mewn i bâst ( ~ 1 munud )
Ychwanegwch yr olew olewydd a’i blendio eto fewn i saws tew, talpiog ( ~ 1 munud )
Does ddim angen blendio’r tapenade yn hollol esmwyth, saws efo priodweddau tebyg i pesto ydych eisiau,
- 120ml olew olewydd
Ychwanegwch halen a phupur i flasu.
Storiwch y tapenade yn y fridge, mewn jar neu fowlen o dan cling film ac ychwaneg o olew.
Mi ddylai’r tapenade gadw am tua phythefnos. Mae pH isel y tomatos a’r halen yn arbed bacteria fel clostridium botulinium rhag tyfu, er gwaetha’r diffyg ocsigen a’r lleithder.
Mwy o stwff i neud
Os ydi’r tapenade wedi taro naw efo chi, yna mae mwy ar gael i chi gael trio. Am fwy o sawsiau Canoldirol, cymerwch olwg ar ein rysáit Pesto, neu am fwy o hwyl efo’r blendar, ewch un cam yn bellach a thrïwch ein Aioli Garlleg (i ddod).