Saws bach handi mefys yw hyn.
Perffaith ar gyfer rhoi blas i’ch pwdinau, neu jest gwneud nhw’n Instagram ready de.
Cliciwch isod am y rysáit llawn efo’r holl fesuriadau a thechnegau.
Paratoi’r mefys
Pwyswch eich siwgwr a halen efo’i gilydd mewn powlen.
- 33g siwgwr gwyn
- 1/2 tsp halen
Torrwch eich mefys yn dafelli cyfartal
- 6-8 o mefys
Cymysgwch y tafelli mefys efo’r siwgwr a halen a’u gadael i fwydo (macerate) (30 munud)
Mae’r halen a siwgwr yn tynnu’r dŵr o gelloedd arwynebol y mefys trwy osmosis, sy’n achosi i’r mefys droi’n feddal.
Pan mae’r mefys wedi gorffen mwydo
Cynheswch eich jam gyda’r sudd lemon nes ei fo’n ffrwtian
- 60g jam mefys
- sudd lemon (o tua 1/2 lemon)
Ychwanegwch y mefys i’r jam a’u blendio mewn i puree
Gallwch hefyd drosglwyddo’r gymysgedd i brosesodd bwyd os oes angen.
Rhowch y gymysgedd yn ôl ar y gwres a’i leihau i’r trwch ydych eisiau.
Gallwch wneud y puree mor dew neu mor denau ag ydych eisiau. I weld pa gysondeb sydd ganoch, cymerwch lwy de o’r gymysgedd a’i ollwng mewn gwydr o ddŵr oer. Mi ddisgwyliais i nes byddai’r gymysgedd yn ffurfio clympiau yn y dŵr.
Trosglwyddwch y puree i fotel neu jar a’i oeri.
Gallwch un ai ei oeri yn yr oergell, neu gallwch gyflymu pethau a dal y cynhwysydd mewn sinc dŵr oer am ychydig.
Mwy o stwff
Mae’r puree ‘ma ar gyfer bob math o bethau, hufen ia, platio del, beth bynnag. Am ddefnydd da ‘dwi wedi’ ddarganfod, cymerwch olwg ar y rysáit Cheesecake Mefys a Vanilla, i weld sut allwch ddefnyddio’r puree i gael farblo eich pwdinau.