Be wna’r dyn â gormod o gream?
Hufen ia wrth gwrs!
Mân fantais o weithio mewn bwyty bach yw gwastraf. Dim i’r fusnes wrth gwrs ond i mi’n bersonol ma’n gret! Felly wythnos yma, 1.2 lire o hufen dwbwl oedd genyf i chwarae efo. Y peth cyntaf ddaeth i’m meddwl oedd hufen ia, ond heb beiriant, roedd hyn am fod yn sialens.
Lwcus i chi, dwi’n nuts, felly mi ydw i wedi bo’n treulio llawer gormod o amser yn ymchwylio sut mae gwneud hufen ia heb beiriant. Yr ateb? Cael crisialau dŵr mor fach a phosib yn ein hufen ia. Y lleiaf yw’r crisialau, y pellaf o bloc o rew fydd ein hufen ia a’r mwyaf esmwyth fydd o.
Felly tair twb, tair blas. Dyma sut mae gwneud hufen ia cartref, heb beiriant o unrhyw fath.
Cliciwch isod ar gyfer y rysáit llawn efo’r technegau a’r mesuriadau llawn.
Mi fyddech angen dau din pobi ar gyfer eich hufen ia. Un efo arwyneb mawr fel tin pobi bisgedi, ac un llai efo ochrau uchel fel tin pobi bara. Rhowch y ddau din yn yr oergell o flaen llaw. (Efallai fydd angen i chi dynnu silf neu ddror allan o’r oergell fel bod tin pobi’n medru cael ei osod yn yr oergell yn wastad, heb ei wthio fewn ar ongl)
Y gyfrannedd cynhwysion a ddefnyddwyd oedd:
1:2:4, siwgwr, llefrith a hufen
1 melyn i bob 100g o hufen
Paratoi eich blasyddion
I gael hufen ia da, un gyntaf mae angen blasyddion da. Dyma sut mae mwydo’ch blasyddion mewn llefrith i echdynnu’ blas.
Mesurwch a casglwch eich blasyddion mewn cynhwysydd.
Fel rheol, i bob 200g o lefrith, mi fyddai’n defnyddio rhwng 1 a 2 tbsp o flasyddyn, yn ôl y cryfder ydw i eisiau.
Er engraifft, ar gyfer y hufen ia coffee Poblado a cardamom, y coffee oedd yn serenu efo cardamom fel blas cefndirol, felly defnyddiais
- 2 tbsp o goffee Poblado
- 1 tbs o gardamom, y codau wedi eu malu
I’r hyfen ia rhiwbob ripple a rhosmari (lle mae’r rhiwbob oedd y focws, i’w ychwanergu’n hwyrach)
- 1 tbs rhosmari
I’r hufen ia banana a cnau caramel (efo’r blas banana’n dod o’r syrop yn benaf)
- 2 tbs o syrop banana
- 1 tbs o fanilla
Gallwch ddilyn yr un patrwm ar gyfer unrhyw flas, er engraift, 2tbsp o bowdwr coco ar gyfer hufen ia siocled, neu 2 tbs o syrop mafon ar gyfer hufen ia mafon.
Cynheswch y llefrith nes bron yn berwi ( microdon ~ 2 funud)
- 200g llefrith (cyflawn os yn bosib)
Towalltwch y llefrith poeth drost eich blasyddion a’u gadael i fwydo (30 munud)
Mi fabwysiadith y llefrith flas y blasyddion, sydd wedyn am alluogi i ni hidlo’r solidau o’r gymysgedd heb golli’r blas.
Efo’r llefrith yn mwydo, gallwch barato gweddill eich cynhwysion.
Paratoi’r hufen
Heb beiraiant, gallwn ni’m gweithio’r hufen ia wrth iddo rewi. Trwy chwipio’r hufen, y bwriad yw i dal aer o flaen llaw, wneith, gadw’r hufen ia’n esmwyth wrth rewi.
Mesurwch eich hufen allan mewn powlen gymysgu.
- 400g hufen dwbwl
Wisgiwch yr hufen nes iddo ffurfio pigau meddal
Mae’n hawdd iawn gor chwipio. Unwaith mae’r hufen yn tewychu, chwipiwch a llaw yn araf nes ffurfio pigau meddal (nid pigau cadarn).
Efo’r hufen yn barod ac unwaith mae’r llefrith wedi mwydo, parhawch efo’r camau isod
Creu’r cwstad
Cwstard wedi’ rewi yw hufen ia yn y bon. Ei fantais yw’r melynwy, sy’n cynwys canran uchel o fraster, protein ac emylsyddion, a’r siwgwr. Pedwar peth sy’n berffaith ar gyfer creu hufen ia esmwyth.
Protein -Wrth gynhesu, mae protein yn ceulo i greu rhwydwaith sy’n wedyn yn atal molecylau dŵr rhag symud mor rhydd.
Braster – Molecylau sydd digon mawr a heglog i fod yn rwystr i foleculau dŵr, sy’n lleihau’r probabilrwydd eu bod yn cwrdd.
Emylsyddion – Molecylu deuben sy’n medru creu bond rhwng dŵr a braster a felly’n atal bondio rhwng molecylau dŵr.
Siwgwr – Moleculau fel sucros, glucos a fructos sy’n hygroscopig a’n atynnu dŵr tuag atant, i ffwrdd o foleculau dŵr eraill.
Pwrpas hyn i gyd? Trwy atal molecylau dŵr rhag gwrdd, rydym yn gwneud hi’n anoddach i’r molecylau yma drefnu eu hunain ar raddfa fawr. Heb drefniant, mi fydd yna’m crisialau, a felly o ddiffiniad, mi fydd yna ddim rhew yn ffurfio yn ein hufen ia.
I gyd diolch i bresenoldeb gorfoledd o felynwy a siwgwr.
Am fwy ar hyn, mae erthygl seriouseats da yn trafod y nifer perffaith o felyn i ddefnydio mewn hufen ia.
Mesurwch a wisgiwch eich melynwy a siwgwr at ei gilydd ( < 1 munud )
- 4 melynwy
- 100g siwgwr gwyn
- 1 tbs mel (neu syrop o riw fath)
Hidlwch yr llefrith wedi mwydo drwy ogr man, drost yr melynwy a’r siwgwr.
- 200g llefrith wedi’ fwydo â blasyddion
Cynheswch y gymysgedd mewn sosban i 80°C / 160°F ( ~ 10 munud )
Byddwch yn siwr i droi’r gymysgedd yn gyson tra bo’n cynhesu, yn enwedig unwaith gyrheuddwch o gwmpas 60°C ac mwy. Wrth droi, rydych yn cadw tymheredd y cwstard yn hafal drwyddo, sy’n arbed cael rhan o’ch cwstad yn gor-geulo. Dim wyau ‘di scramblo wan iawn.
Hidlwch y cwstad eto drwy ogr.
Erbyn hyn, mi ddylai’r cwstard fod wedi tewychu riwafaint (mi wneith hoel aros os dynnwch i fus drwyddo ar gefn llwy). Bwriad hidlo yw gwneud yn siwr bod dim hoel o ŵy wedi gor-geulo yn y cwstard…dim bod unrhyw siawns o hynnu’n digwydd wrth gwrs! 😛
Gadewch i’r cwstad oeri.
Mae hi’n bwysig bod y cwstad yn oer i sicrhau ei fod yn rhewi mor gyflym a phosib yn y cam nesaf. Gallwch unai roi’r cwstard yn y fridge, neu cyflymu’r broses drwy ei oeri mewn sosban mewn sink o ddŵr oer.
Cymysgwch y cwstad a’r hufen nes yn esmwyth ( 2 munud )
- hufen wed’i chwipio’n feddal
- cwstard wedi oeri
Efo popeth wedi’ gymysgu, mae hi rwan yn amser rhewi’r gymysgedd.
Rhewi’r Hufen Ia
Y ffactor olaf ar gyfer creu hufen ia esmwyth yw’r amser rhewi. Y cyflymaf mae’r hufen ia’n rhewi, y lleiaf oll fydd y crisialu rhew a’r gorau fydd yr hufen ia. Heb beiriant i droi a rhewi’r gymysgedd ar yr un pryd, dyma’r sialens mwyaf ar gyfer creu hufen ia cartref. Ond fel arfer, mae genai riw fath o lifehack i chi.
Os ydych yn rhewi tin pobi o flaen llaw, a’n oeri’r cwstad, mi fydd eich hufen ia’n cael y siawnd orau i oeri’n sydyn. Y theori yw bo’r tin pobi metel am ddargludo gwres o’r gymysgedd yn llawer mwy effeithiol na fyddai aer yr oergell trw ddarfudiad. Mi fydd y tin pobi hefyd mewn cyswllt a’r oergell ei hyn, a felly mi fydd hynnu’n galluogi i’r oergell oeri’r hufen ia’n uniongyrchol drost arwyneb cyfan y tin pobi.
Yr unig beth fydd angen gwneud wedyn fydd tynnu’r tin o’r oergell bob 20 munud i gymysgu’r hufen ia. Mi wneith hyn darfu ar y broses rhewi, yn gadael i ni ail ddosbarthu’r gwres drwy’r gymysgedd a’n torri lawr unrhyw grisialau sydd ar fi’n tyfu’n rhy fawr.
Tynnwch eich tin pobi mawr o’r oergell a tywalltch y gymysgedd drosto.
- Cymysgedd hufen ia
- Tin pobi llydan o’r oergell
Gosodwch y tin pobi’n ôl yn yr oergell (20 munud)
Tynnwch y tin pobi allan a swirliwch y gymysgedd o gwmpas
Defnyddiais i scrapiwr toes ar gyfer hyn, i wneud siwr mod i’n medru ail gymysgu unrhyw rannau o’r gymysgedd oedd wedi dechrau rhewi ar waelod y tin.
Ailadroddwch y camau uchod hyd a nes bo’r hufen ia yn rhewi.
Mi fydd yr hufen ia’n barod unwaith y bydd o’n gadarn, ond dal yn feddal a’n bosib i’w siapio (fel soft scoop).
Pan yn barod, cymerwch eich hyfen ia o’r tin pobi a’i wasgu fewn i’r tin pobi llai, i greu tafell hufen ia.
Dyma’r pwynt lle bydd angen i chi ychwanegu unrhyw flasyddion llawn, fel banana, mafon neu rhiwbob wedi’ stiwio. Trwy greu haenau o hufen ia a ffrwythau yn y tin pobi uchel, mi gewch effaith ripple wrth dorri fewn a llwyo’r hufen ia.
- Hufen ia bron a rhewi
- Tin pobi bach ochor uchel (tin torth os yn bosib)
Gosodwch y tin torth llawn hufen ia yn yr oergell i rewi’n hollol ( 4 awr neu fwy )
Mwy o Sdwff
Dyna i chi felly sut mae creu hufen ia cartref, heb beiriant na dim, jest efo wyau, a lot o hyfen! Os ydych eisiau cymerwch olwg ar y rysáit cnau banana caramel, neu am ddefnydd ar gyfer yr holl wynwy na sydd ganddoch, cymerwch olwg ar ein rysáit Meringue Eidaleg am ateb syml i’ch problem, neu am rywbeth bach mwy cerebral, mae erthygl yn Y Lab yn dadansoddi a’n arbrofi efo cacenni Bwyd Angel, i ddeall sut mae creu’r cacen di flawd perffaith.