‘Chi ‘di nal i; “Poblyddwr! Poblyddwr!” Glywai chi’n canu. Anodd yw osgoi mabwysiadu dy gymdogion. I efelychu’ch cymdogion a’r byd ydych yn byw ynddi. I mi, bwyd yw’r byd ‘na. Yn fwy pennodol, bwyd ‘di bobi. Genna i gariad at bobi. Bara brith i fara brown, cwcis i cracers, ‘dwi wrth fy modd â nhw i …
Mis: Awst 2018
Y syniad Yn y bwyty, surdoes fyddai’n defnyddio fel burum yn ein toes pitsa. Bob dydd, mi fyddai’n cymryd rywfaint o’r surdoes, a’n ei ychwanegu at ddŵr a blawd, i greu’r toes pitsas. Fel arfer, ‘ddai’n defnyddio tua 4% pwysau’r blawd a ddefnyddwyd. Hynny yw, i 10kg o flawd, mi ‘ddai’n defnyddio 400g o starter …
Un arall o’r Pizza Bible gan Toni Gemignani. Ers amser ‘dwi ‘di bo’n llygadu un o’i ryseitiau ar gyfer pitsa’n defnyddio cig selsig. Topin sy’n glasur ar unrhyw bitsa Efrog Newydd, mae selsig ar bitsa’n rywbeth ‘dwi wastad wedi bod eisiau profiadu. ‘Drai’m deall yr apel! Mewnfudwyr Eidaleg yn pobi cig amrwd ar fara , caws a tomato, …
Croissan Cwestiwn bach diniwed. Cwestiwn delfrydol i mi’n hogyn bach. Daw pŵer bwyd o fagu perthnasau, o rannu. Rhannu gweithgaredd. Rhannu cegeidiau trwsgl pastri. Rhannu bodlonrwydd. Dim rhyfedd felly, mae un o’r atgofion (lythrennol) mwyaf melys sydd genna i o blentyndod, yw nol fanila slice o stryd Bangor efo Mam. Fel ‘dwi ‘di gyffwrdd arni wrth …
Pitsa syml, ond hawdd i’w orwneud. Efo dim ond pesto fel topin’, mae angen bod yn ofalus efo pitsa pesto. Fel saws, mae pesto’n cario blas pwerus. Gall hyn arwain at bitsa sy’n cael ei ddomineiddio gan nodau hallt a sawrys y pesto. Gall y braster o’r olew a’r caws yn y pesto hefyd arwain …
Sgin ti basta? Gwna besto. Os oes pum munud efo chdi, hen morter a pheslt angen bach o wash, a basil su’n araf bach bach bwyta’ch sil ffenest, yna pesto ydi’r rysáit i chi! Does yna’m pryd gwell, na mwy handi, na phasta ffres di drochi mewn pesto cartref. Peidiwch ag oedi felly, ma’ fideo ar gyfer …
O’r diwedd, mae’r foment wedi cyrraedd, ‘dwi ‘di meistrioli amaretti. Ond ‘doedd o’m yn hawdd. O’r siwgwr delfrydol i ba fath o ‘almwn’ i’w ddefnyddio , dyma i chi, yr erthygl, a’r fideo, olaf, yn dangos yn union sut mae gwneud, a deall, yr amaretti perfaith. Arbrawf 1 Nodweddion sylfaen i fisged Pan …
Y bore wedi’r parti. Lle od i ddechrau rysáit. Mae’r llygaid yn drwm, a’r aer yn drymach. Ond glan yw’r gegin, arwydd bod OCD yn trechu alcohol bob tro. Peth da hefyd. Efo mynydd o fwyd parti heb ei gyffwrdd, roedd angen bob sgwaryn clir o’r gegin i ail-bwrpasu’r holl weddillion. Cigoedd i’w rhewi, bara i …