O blantos bach i’r Michelin chef, dyw wyau’m yn ddieithr i neb. Wyau, yw asgwrn cefn y gegin. Efallai eich bo’n mwynhau ŵy ‘di sgramblo bora ‘ma, neu’n mentro’r drewdod a ca’ brechdan ŵy i ginio. Neu efallai eich bod, fel y gorau ohonom, yn rhythu ar oergell wag, ond mai’n iawn, mae omlet, neu quiche bach, o …
Y syniad Yn y bwyty, surdoes fyddai’n defnyddio fel burum yn ein toes pitsa. Bob dydd, mi fyddai’n cymryd rywfaint o’r surdoes, a’n ei ychwanegu at ddŵr a blawd, i greu’r toes pitsas. Fel arfer, ‘ddai’n defnyddio tua 4% pwysau’r blawd a ddefnyddwyd. Hynny yw, i 10kg o flawd, mi ‘ddai’n defnyddio 400g o starter …
O’r diwedd, mae’r foment wedi cyrraedd, ‘dwi ‘di meistrioli amaretti. Ond ‘doedd o’m yn hawdd. O’r siwgwr delfrydol i ba fath o ‘almwn’ i’w ddefnyddio , dyma i chi, yr erthygl, a’r fideo, olaf, yn dangos yn union sut mae gwneud, a deall, yr amaretti perfaith. Arbrawf 1 Nodweddion sylfaen i fisged Pan …
Ond ‘sgedan o’ni ‘isho! Bisgedi caramel, shortbread cnau, bob un yn siom. Efallai fy mod i ar fai. Efallai bod breuddwydio am y fisged goffi perffaith yn rhy uchelgeisiol. Neu efallai, bod angen rhywbeth symlach arna i, rhywbeth, fel Amaretti. Y fisged goffi cyntefig. Yn ôl y chwedloniaeth tarddu o bentref Saranno, ym mryniau Lombardi, wna’r …
Am riw reswn, wrth ymchwilio rhiw fideo arall, mi ddisgynnais i i’r trap o chware efo caramel am bythefnos. Dim gair o gelwydd. Wrth chwilio am rysáit bisged gofi arall, mi ddechreuais i fach o ymchwil mewn i fisgedi Speculoos, a sut mae cael blas caramel i mewn i fisged. Un theori o wefan seriouseats oedd bod siwgwr …
Darn crispy’r lasagna. Achos miloedd o frwydrau teuluol dros y canrifoedd. Mor werthfawr ei fod o’n bryd yn ei hun yn un o fwytai gorau’r byd – Osteria Francescana. Ma’r syniad ei hyn yn ddigon i dynnu deigryn i’r llygad a dŵr i’r danned. Heddiw felly, ‘da ni am fod yn sianelu Massimo Bottura, yn ceisio …
Y Bara Beunyddiol Pain bénit, y bara sanctaidd. Am y 400 mlynedd diwethaf, ma’ Ffrainc wedi bod yn brwydro. Na, nid yn erbyn yn Almaenwyr, ac na hyd yn oed nhw eu hunain, ond yn erbyn menyn. Ia, menyn. Fel mae deall hi, bara sanctaidd oedd brioche i ddechrau. Ond, riw bryd yn ystod y 17eg …
Y ddarlith di-gluten Do, mae’r di-glutenwyr wedi ennill, dyma bost ffurf hir cyntaf, ar gacenni di flawd. Gwregys ar, ‘ma hon am fod yn un hir. Angel Food cake yw’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r post yma. Fel cacen di-gluten, protein yw asgwrn cefn Angel Food Cake. Yn lle, starts o flawd, protein o’r wyau sy’n ei …
Torrish i fy nghyllell. Pum mlynedd o waith ffyddlon wnaeth o, yn dal i dorri’n di nod. Hynny yw, nes i mi wneud Cheesecake. Nid y rhacsiwr cyllyll gwaethaf ‘dwi’n siŵr, ond mae’r byd yn le rhyfedd iawn, a dim ots pa mor feddal yw’r bwyd, mi fydd llawr, o hyd, yn galed. Ie, disgyn …
Criw reit gyfrinachol yw’r gwneuthurwyr bwyd ‘ma chi. Anaml iawn cewch chi bopeth ar blât ganddyn nhw, yr 11 Original Herbs and Spices Criw a’u union grynodebau ‘di printio’n ddel yn y rhestr cynhwysion. Allwch chi ddychmygu felly bod ail greu teacake am fod yn dasg reit anodd. Yn enwedig pan mae hyn yw’r unig …