Y bore wedi’r parti. Lle od i ddechrau rysáit. Mae’r llygaid yn drwm, a’r aer yn drymach. Ond glan yw’r gegin, arwydd bod OCD yn trechu alcohol bob tro. Peth da hefyd. Efo mynydd o fwyd parti heb ei gyffwrdd, roedd angen bob sgwaryn clir o’r gegin i ail-bwrpasu’r holl weddillion. Cigoedd i’w rhewi, bara i …
Amaretti’n rhy ddiymhongar i chi fel ‘sgedan diwedd pryd? Heddiw, ‘da ni’n treialu rysáit am Lagniappes, bisgedi ar ôl bwyd Ken Forkish o’i lyfr Flour Water Salt Yeast. ‘Dwi wastad wedi bod eisiau creu rysáit bisgedi cofi felly dyma’r cyntaf o’r ymdrechion yma; bisgedi almon wedi eu gorffen efo hufen a siwgwr. Darllenwch ymlaen am y rysáit …
Y Bara Beunyddiol Pain bénit, y bara sanctaidd. Am y 400 mlynedd diwethaf, ma’ Ffrainc wedi bod yn brwydro. Na, nid yn erbyn yn Almaenwyr, ac na hyd yn oed nhw eu hunain, ond yn erbyn menyn. Ia, menyn. Fel mae deall hi, bara sanctaidd oedd brioche i ddechrau. Ond, riw bryd yn ystod y 17eg …
Sut ma’ dy fanana? Os, yw eich bananas yn fwy brychni na brecwast, peidiwch a phoeni a dilynwch fi. Heddiw, na am wthio’r ffrwythau anffodus ‘na i’r brig o be allwn ddiffinio fel solid. Dyma bara banans, efo microdon! Cliciwch am y rysáit llawn efo mesuriadau a technegau.
Gluten-free(ish)? Ceirch iachus? Cnau Cocos?! Os, am ba bynnag reswm, bod un o’r pethau yma’n apelio atoch chi, mi rydych mewn lwc. Wythnos yma, ‘dwi wedi bo’n arbrofi efo cnwd cyntaf Cymru i wneud ein treat diweddaraf: Cwcis Ceirch. This recipe is a trial of Momofuku Milk Bar’s Oatmeal Cookies by Christina Tosi. Mae’r cynhwysion a mesuriadau llawn isod.