Gluten-free(ish)? Ceirch iachus? Cnau Cocos?! Os, am ba bynnag reswm, bod un o’r pethau yma’n apelio atoch chi, mi rydych mewn lwc. Wythnos yma, ‘dwi wedi bo’n arbrofi efo cnwd cyntaf Cymru i wneud ein treat diweddaraf: Cwcis Ceirch. This recipe is a trial of Momofuku Milk Bar’s Oatmeal Cookies by Christina Tosi. Mae’r cynhwysion a mesuriadau llawn isod.
Mis: Chwefror 2018
Pantri’n wag. Dim byd ar ôl yn y tŷ ond wyau? Ella paced o facwn a hen ddiweddion parmesan? Pasta? Ugh… Ond be pe bawn i’n dweud bod eich cegin gwag chi, efo’r potensial i syfrdanu teulu a gwesteion oll gyda’ch dawn coginio? Y pryd all gyflawni hyw, yw Carbonara. Pryd pasta mwyaf camddealledig Cymru …
Y brecwast tradodiadol Cymreig (a sa neb i ddweud fel arall)! Am ganrifoedd ma plantos Cymru ‘di bod yn dringo’r mynyddoedd i hel y llus. Er mod i’m yn gweld llawar o neb yn dringo’r mynyddoedd rhagor (ddim i nol llus beth bynnag), dio’m yn reswm i beidio mwynhau’r brecwast gorau sydd yna: Crempogau llus. …
Cyfri’r dyddiau i’ch gwyliau nesaf yn y Med? Wel, mae gennyf i rywbeth bach i’ch cario chi drwy’r misoedd oer yma. Beth ydw i wedi bod yn chwarae efo’n ddiweddar, yw’r saws Canoldirol gorau sydd yna: Tapenade. Cewch y rysáit efo mesuriadau a chynhwysion isod.
Croeso i fideo cyntaf Artisaniaeth.com! Dyma fy nghyfres gyntaf yn dangos i chi’n union sut mae meistroli technegau pobi, efo gwyddoniaeth, a bach o steil. Dyma i chi demo bach ar sut i wneud Macarons (diolchwch i Google AdWords am hynny), yn dadansoddi’r camau, mewn creu bisged fwyaf bygythiol y byd. Mae’r rysáit yma wedi cael ei …
Dyma fi, laptop o’m mlaen, yn barod i ‘sgwenu, ond pam? Fel rheol, ma bywyd yn dda. Addusg uwch radd, swydd dw i’n fwynhau, cartref rhy glyd a cariad dwi’n, wel, ei charu! Gwyn yw fy myd yn de. Er, tybiaf bo rhan helaeth ong nghynilleidfa hefyd yn mwynhau daioni’r gwynfudwch yma. Swni hefyd fellu’m …
‘Sginach chi does yn sbâr. ‘Da chi isho toes yn sbâr? Yn y fideo yma, mi fydda i’n dangos i chi sut i wneud focaccia, yn defnyddio go-to-recipe toes fi. Mae’r rysáit toes yma’n un dwi’n ei ddefnyddio ar gyfer bob dim, o bitsas i frechdanau, ond fel cyflwyniad i bobi bara, does dim byd gwell …