Tag Archives: gwyddoniaeth o

Meddwl dd-ŵy-waith, am wyau

Gwyddoniaeth cudd yr ŵy

O blantos bach i’r Michelin chef, dyw wyau’m yn ddieithr i neb. Wyau, yw asgwrn cefn y gegin. Efallai eich bo’n mwynhau ŵy ‘di sgramblo bora ‘ma, neu’n mentro’r drewdod a ca’ brechdan ŵy i ginio. Neu efallai eich bod, fel y gorau ohonom, yn rhythu ar oergell wag, ond mai’n iawn, mae omlet, neu quiche bach, o …

Queso Fresco – Caws Ffres

caws ffres llaethdy llyn

Caws! Caws! Pleidiol wyf i fy nghaws! Fel cogydd pitsa, caws yw fy nghanfas. Mewn caws, mae’r gallu i drawsnewid bara a thomato yn fwyd arallfydol. Gall gaws ein pitsas ein cludo o strydoedd Parma i fynyddoedd Roquefort-sur-Soulzon, ac fel cogydd Cymraeg, mae hyn yn beth gwerthfawr iawn. Yn bell o fod yn sownd yn Cheddar …

Hufen Ia Di-declyn

Cofi Poblado a Cardamom (chwith), caramel cnau banana (cannol), riwbob a rosmari (dde)

Be wna’r dyn â gormod o gream? Hufen ia wrth gwrs! Mân fantais o weithio mewn bwyty bach yw gwastraf. Dim i’r fusnes wrth gwrs ond i mi’n bersonol ma’n gret! Felly wythnos yma, 1.2 lire o hufen dwbwl oedd genyf i chwarae efo. Y peth cyntaf ddaeth i’m meddwl oedd hufen ia, ond heb beiriant, …

Pasta Cartref

Master of None ia? Dwi, fel gweddill yr internet, wedi bod un obsessed â Dev a’i siwrna trwy’r Eidal yn gwneud pasta. Ond un peth dydi Netflix heb ddangos, ydi sud yn union ddysgodd i neud pasta cartref mor dda? Yn y fideo yma, ‘da ni am sbio ar wyddoniaeth gwneud pasta, i weld yn union …