Tag Archives: sud i

Pesto

Sgin ti basta? Gwna besto. Os oes pum munud efo chdi, hen morter a pheslt angen bach o wash, a basil su’n araf bach bach bwyta’ch sil ffenest, yna pesto ydi’r rysáit i chi! Does yna’m pryd gwell, na mwy handi, na phasta ffres di drochi mewn pesto cartref. Peidiwch ag oedi felly, ma’ fideo ar gyfer …

Carbonara

Pantri’n wag. Dim byd ar ôl yn y tŷ ond wyau? Ella paced o facwn a hen ddiweddion parmesan? Pasta? Ugh… Ond be pe bawn i’n dweud bod eich cegin gwag chi, efo’r potensial i syfrdanu teulu a gwesteion oll gyda’ch dawn coginio? Y pryd all gyflawni hyw, yw Carbonara. Pryd pasta mwyaf camddealledig Cymru …

Crempogau Llus

Y brecwast tradodiadol Cymreig (a sa neb i ddweud fel arall)! Am ganrifoedd ma plantos Cymru ‘di bod yn dringo’r mynyddoedd i hel y llus. Er mod i’m yn gweld llawar o neb yn dringo’r mynyddoedd rhagor (ddim i nol llus beth bynnag), dio’m yn reswm i beidio mwynhau’r brecwast gorau sydd yna: Crempogau llus. …

Focaccia (Cymreig)

‘Sginach chi does yn sbâr. ‘Da chi isho toes yn sbâr? Yn y fideo yma, mi fydda i’n dangos i chi sut i wneud focaccia, yn defnyddio go-to-recipe toes fi. Mae’r rysáit toes yma’n un dwi’n ei ddefnyddio ar gyfer bob dim, o bitsas i frechdanau, ond fel cyflwyniad i bobi bara, does dim byd gwell …

Pasta Cartref

Master of None ia? Dwi, fel gweddill yr internet, wedi bod un obsessed â Dev a’i siwrna trwy’r Eidal yn gwneud pasta. Ond un peth dydi Netflix heb ddangos, ydi sud yn union ddysgodd i neud pasta cartref mor dda? Yn y fideo yma, ‘da ni am sbio ar wyddoniaeth gwneud pasta, i weld yn union …