O blantos bach i’r Michelin chef, dyw wyau’m yn ddieithr i neb. Wyau, yw asgwrn cefn y gegin. Efallai eich bo’n mwynhau ŵy ‘di sgramblo bora ‘ma, neu’n mentro’r drewdod a ca’ brechdan ŵy i ginio. Neu efallai eich bod, fel y gorau ohonom, yn rhythu ar oergell wag, ond mai’n iawn, mae omlet, neu quiche bach, o …
Y bore wedi’r parti. Lle od i ddechrau rysáit. Mae’r llygaid yn drwm, a’r aer yn drymach. Ond glan yw’r gegin, arwydd bod OCD yn trechu alcohol bob tro. Peth da hefyd. Efo mynydd o fwyd parti heb ei gyffwrdd, roedd angen bob sgwaryn clir o’r gegin i ail-bwrpasu’r holl weddillion. Cigoedd i’w rhewi, bara i …
‘Dwi ‘di gwneud cheesecake, o’r diwedd. Ond nid cheesecake arferol ‘mo hon. Oh na. Mai’n ddyletswyth arnaf i erbyn hyn i or-gymhlethu’r ryseitiau ‘ma, felly ewch wan, Paratowch y bath, ma’ hi’n amser pobi. Am y rysáit efo’r holl fesuriadau a thechnegau, cliciwch isod.
‘Dwi wrth fy modd efo tart aux pommes. Ond wedi dweud hynna, ma’ gennyf i wendid hen ddyn am grymbl afal, diolch Nain…a Dad! Felly dyma’n ateb i: Crymbl afal wedi’ lythrennol droi ben lawr. Gwaelod o friwsion crymbl, canol o gwstard ‘di bobi, a haen o afalau tannau’n coroni’r holl beth. Am y rysáit efo’r …
Os, fel fi, ma’r syniad o chwipio wyau fewn i meringue yn codi bach o ofn arnach chi, ynna dwi’n siwr bo fi’m ben fy hyn yn cael hunllefau am neud y fersiwn Eidaleg. Lwcus i chi, dwi di bod yn dod drost yr ofnau yma’n ddiweddar, yn gwneud fy ngwaith cartref a digon o …
Sut ma’ dy fanana? Os, yw eich bananas yn fwy brychni na brecwast, peidiwch a phoeni a dilynwch fi. Heddiw, na am wthio’r ffrwythau anffodus ‘na i’r brig o be allwn ddiffinio fel solid. Dyma bara banans, efo microdon! Cliciwch am y rysáit llawn efo mesuriadau a technegau.
Gluten-free(ish)? Ceirch iachus? Cnau Cocos?! Os, am ba bynnag reswm, bod un o’r pethau yma’n apelio atoch chi, mi rydych mewn lwc. Wythnos yma, ‘dwi wedi bo’n arbrofi efo cnwd cyntaf Cymru i wneud ein treat diweddaraf: Cwcis Ceirch. This recipe is a trial of Momofuku Milk Bar’s Oatmeal Cookies by Christina Tosi. Mae’r cynhwysion a mesuriadau llawn isod.
Pantri’n wag. Dim byd ar ôl yn y tŷ ond wyau? Ella paced o facwn a hen ddiweddion parmesan? Pasta? Ugh… Ond be pe bawn i’n dweud bod eich cegin gwag chi, efo’r potensial i syfrdanu teulu a gwesteion oll gyda’ch dawn coginio? Y pryd all gyflawni hyw, yw Carbonara. Pryd pasta mwyaf camddealledig Cymru …
Y brecwast tradodiadol Cymreig (a sa neb i ddweud fel arall)! Am ganrifoedd ma plantos Cymru ‘di bod yn dringo’r mynyddoedd i hel y llus. Er mod i’m yn gweld llawar o neb yn dringo’r mynyddoedd rhagor (ddim i nol llus beth bynnag), dio’m yn reswm i beidio mwynhau’r brecwast gorau sydd yna: Crempogau llus. …
Croeso i fideo cyntaf Artisaniaeth.com! Dyma fy nghyfres gyntaf yn dangos i chi’n union sut mae meistroli technegau pobi, efo gwyddoniaeth, a bach o steil. Dyma i chi demo bach ar sut i wneud Macarons (diolchwch i Google AdWords am hynny), yn dadansoddi’r camau, mewn creu bisged fwyaf bygythiol y byd. Mae’r rysáit yma wedi cael ei …