Speculoos! Neu be ddylai ‘di bod yn fisgedi Speculoos beth bynnag. Mwy o adolygiad rysáit i fod yn onest. Brwydr o garamel yn erbyn siwgwr ‘di tostio oedd hwn, i weld pa siwgwr fysa’n gwneud y fisged coffi orau. Diolch i seriouseats.com am ysbrydoli’r rysáit: Cliciwch isod am y rysáit llawn efo’r mesuriadu a thechnegau a …
Gwers mewn piclo a plymio! Giardiniera sydd ar y fwydlen heddiw. Relish Eidaleg o fath yw Giardiniera, cymysgedd o lysiau wedi eu cadw dan olew neu finegr. Wedi fy ysbrydoli i arbrofi efo eplesu (fermentio) yn ddiweddar, mi benderfynais roi sbin lactig ar y picls ‘ma, yn eplesu’r Giardiniera yn lle. Yn lle defnyddio asid i …
Amaretti’n rhy ddiymhongar i chi fel ‘sgedan diwedd pryd? Heddiw, ‘da ni’n treialu rysáit am Lagniappes, bisgedi ar ôl bwyd Ken Forkish o’i lyfr Flour Water Salt Yeast. ‘Dwi wastad wedi bod eisiau creu rysáit bisgedi cofi felly dyma’r cyntaf o’r ymdrechion yma; bisgedi almon wedi eu gorffen efo hufen a siwgwr. Darllenwch ymlaen am y rysáit …
Y Bara Beunyddiol Pain bénit, y bara sanctaidd. Am y 400 mlynedd diwethaf, ma’ Ffrainc wedi bod yn brwydro. Na, nid yn erbyn yn Almaenwyr, ac na hyd yn oed nhw eu hunain, ond yn erbyn menyn. Ia, menyn. Fel mae deall hi, bara sanctaidd oedd brioche i ddechrau. Ond, riw bryd yn ystod y 17eg …
Yn fy ngwely oeddwn i, ‘di cynhyrfu’n lan. Lawr grisiau, oedd gennai dros litr o hufen i’w ddefnyddio. Wedi penderfynu gwneud Hufen Ia, roedd hi rŵan yn mynd amser obsesu dros ba flas i ddefnyddio. Poblado Cofi a cardamom? Ia! Rhiwbob a rhosmari? Pam lai de? Ond be arall sydd gennai angen defnyddio? Bananas de! …
Caws! Caws! Pleidiol wyf i fy nghaws! Fel cogydd pitsa, caws yw fy nghanfas. Mewn caws, mae’r gallu i drawsnewid bara a thomato yn fwyd arallfydol. Gall gaws ein pitsas ein cludo o strydoedd Parma i fynyddoedd Roquefort-sur-Soulzon, ac fel cogydd Cymraeg, mae hyn yn beth gwerthfawr iawn. Yn bell o fod yn sownd yn Cheddar …
Be wna’r dyn â gormod o gream? Hufen ia wrth gwrs! Mân fantais o weithio mewn bwyty bach yw gwastraf. Dim i’r fusnes wrth gwrs ond i mi’n bersonol ma’n gret! Felly wythnos yma, 1.2 lire o hufen dwbwl oedd genyf i chwarae efo. Y peth cyntaf ddaeth i’m meddwl oedd hufen ia, ond heb beiriant, …
Surdoes ddim yn ddigon fermented i chi? Trïwch dorth Mêl a Cheirch! Yn Goron Driphlyg o fwyd fermented, mae’r dorth yma’n cyfuno gwenith, mêl a cheirch i greu bara naturiol a graenus, sydd dal y ddigon meddal i’ch bara jam. Fel Hovis heb y rhwymdra, ideal! Cewch y rysáit efo’r holl gamau a mesuriadau yma
Saws bach handi mefys yw hyn. Perffaith ar gyfer rhoi blas i’ch pwdinau, neu jest gwneud nhw’n Instagram ready de. Cliciwch isod am y rysáit llawn efo’r holl fesuriadau a thechnegau.
‘Dwi ‘di gwneud cheesecake, o’r diwedd. Ond nid cheesecake arferol ‘mo hon. Oh na. Mai’n ddyletswyth arnaf i erbyn hyn i or-gymhlethu’r ryseitiau ‘ma, felly ewch wan, Paratowch y bath, ma’ hi’n amser pobi. Am y rysáit efo’r holl fesuriadau a thechnegau, cliciwch isod.