Darn crispy’r lasagna. Achos miloedd o frwydrau teuluol dros y canrifoedd. Mor werthfawr ei fod o’n bryd yn ei hun yn un o fwytai gorau’r byd – Osteria Francescana. Ma’r syniad ei hyn yn ddigon i dynnu deigryn i’r llygad a dŵr i’r danned. Heddiw felly, ‘da ni am fod yn sianelu Massimo Bottura, yn ceisio …
Y Bara Beunyddiol Pain bénit, y bara sanctaidd. Am y 400 mlynedd diwethaf, ma’ Ffrainc wedi bod yn brwydro. Na, nid yn erbyn yn Almaenwyr, ac na hyd yn oed nhw eu hunain, ond yn erbyn menyn. Ia, menyn. Fel mae deall hi, bara sanctaidd oedd brioche i ddechrau. Ond, riw bryd yn ystod y 17eg …
Yn fy ngwely oeddwn i, ‘di cynhyrfu’n lan. Lawr grisiau, oedd gennai dros litr o hufen i’w ddefnyddio. Wedi penderfynu gwneud Hufen Ia, roedd hi rŵan yn mynd amser obsesu dros ba flas i ddefnyddio. Poblado Cofi a cardamom? Ia! Rhiwbob a rhosmari? Pam lai de? Ond be arall sydd gennai angen defnyddio? Bananas de! …
Caws! Caws! Pleidiol wyf i fy nghaws! Fel cogydd pitsa, caws yw fy nghanfas. Mewn caws, mae’r gallu i drawsnewid bara a thomato yn fwyd arallfydol. Gall gaws ein pitsas ein cludo o strydoedd Parma i fynyddoedd Roquefort-sur-Soulzon, ac fel cogydd Cymraeg, mae hyn yn beth gwerthfawr iawn. Yn bell o fod yn sownd yn Cheddar …
Be wna’r dyn â gormod o gream? Hufen ia wrth gwrs! Mân fantais o weithio mewn bwyty bach yw gwastraf. Dim i’r fusnes wrth gwrs ond i mi’n bersonol ma’n gret! Felly wythnos yma, 1.2 lire o hufen dwbwl oedd genyf i chwarae efo. Y peth cyntaf ddaeth i’m meddwl oedd hufen ia, ond heb beiriant, …
Y ddarlith di-gluten Do, mae’r di-glutenwyr wedi ennill, dyma bost ffurf hir cyntaf, ar gacenni di flawd. Gwregys ar, ‘ma hon am fod yn un hir. Angel Food cake yw’r ysbrydoliaeth tu ôl i’r post yma. Fel cacen di-gluten, protein yw asgwrn cefn Angel Food Cake. Yn lle, starts o flawd, protein o’r wyau sy’n ei …
Surdoes ddim yn ddigon fermented i chi? Trïwch dorth Mêl a Cheirch! Yn Goron Driphlyg o fwyd fermented, mae’r dorth yma’n cyfuno gwenith, mêl a cheirch i greu bara naturiol a graenus, sydd dal y ddigon meddal i’ch bara jam. Fel Hovis heb y rhwymdra, ideal! Cewch y rysáit efo’r holl gamau a mesuriadau yma
Torrish i fy nghyllell. Pum mlynedd o waith ffyddlon wnaeth o, yn dal i dorri’n di nod. Hynny yw, nes i mi wneud Cheesecake. Nid y rhacsiwr cyllyll gwaethaf ‘dwi’n siŵr, ond mae’r byd yn le rhyfedd iawn, a dim ots pa mor feddal yw’r bwyd, mi fydd llawr, o hyd, yn galed. Ie, disgyn …
Saws bach handi mefys yw hyn. Perffaith ar gyfer rhoi blas i’ch pwdinau, neu jest gwneud nhw’n Instagram ready de. Cliciwch isod am y rysáit llawn efo’r holl fesuriadau a thechnegau.
‘Dwi ‘di gwneud cheesecake, o’r diwedd. Ond nid cheesecake arferol ‘mo hon. Oh na. Mai’n ddyletswyth arnaf i erbyn hyn i or-gymhlethu’r ryseitiau ‘ma, felly ewch wan, Paratowch y bath, ma’ hi’n amser pobi. Am y rysáit efo’r holl fesuriadau a thechnegau, cliciwch isod.