‘Dwi wrth fy modd efo tart aux pommes. Ond wedi dweud hynna, ma’ gennyf i wendid hen ddyn am grymbl afal, diolch Nain…a Dad! Felly dyma’n ateb i: Crymbl afal wedi’ lythrennol droi ben lawr. Gwaelod o friwsion crymbl, canol o gwstard ‘di bobi, a haen o afalau tannau’n coroni’r holl beth. Am y rysáit efo’r …
Yr hen freuddwyd o: ‘Tybed ‘swni’n medru ail greu hwn adre?’ Yr ateb yw reverse engineering. Heddiw, ‘dwi am ail greu y clasur hanner biscuit hanner sweet na, y Tunnok Teacake, neu munchmallows, fel sa cyfreithiwr hawlfraint yn dweud wrthoch. Am yr holl stori am sut canfuwyd y rysáit yma, ewch i’r Lab am y stori llawn. Ond, am …
Criw reit gyfrinachol yw’r gwneuthurwyr bwyd ‘ma chi. Anaml iawn cewch chi bopeth ar blât ganddyn nhw, yr 11 Original Herbs and Spices Criw a’u union grynodebau ‘di printio’n ddel yn y rhestr cynhwysion. Allwch chi ddychmygu felly bod ail greu teacake am fod yn dasg reit anodd. Yn enwedig pan mae hyn yw’r unig …
Os, fel fi, ma’r syniad o chwipio wyau fewn i meringue yn codi bach o ofn arnach chi, ynna dwi’n siwr bo fi’m ben fy hyn yn cael hunllefau am neud y fersiwn Eidaleg. Lwcus i chi, dwi di bod yn dod drost yr ofnau yma’n ddiweddar, yn gwneud fy ngwaith cartref a digon o …
Sut ma’ dy fanana? Os, yw eich bananas yn fwy brychni na brecwast, peidiwch a phoeni a dilynwch fi. Heddiw, na am wthio’r ffrwythau anffodus ‘na i’r brig o be allwn ddiffinio fel solid. Dyma bara banans, efo microdon! Cliciwch am y rysáit llawn efo mesuriadau a technegau.
Ydi hi’n bosib creu surdoes, efo ceirch? Cewch yr adroddiad labordy llawn isod. Gyda’r canlyniadau, y gwyddoniaeth, a’r methodoleg.
Gluten-free(ish)? Ceirch iachus? Cnau Cocos?! Os, am ba bynnag reswm, bod un o’r pethau yma’n apelio atoch chi, mi rydych mewn lwc. Wythnos yma, ‘dwi wedi bo’n arbrofi efo cnwd cyntaf Cymru i wneud ein treat diweddaraf: Cwcis Ceirch. This recipe is a trial of Momofuku Milk Bar’s Oatmeal Cookies by Christina Tosi. Mae’r cynhwysion a mesuriadau llawn isod.
Pantri’n wag. Dim byd ar ôl yn y tŷ ond wyau? Ella paced o facwn a hen ddiweddion parmesan? Pasta? Ugh… Ond be pe bawn i’n dweud bod eich cegin gwag chi, efo’r potensial i syfrdanu teulu a gwesteion oll gyda’ch dawn coginio? Y pryd all gyflawni hyw, yw Carbonara. Pryd pasta mwyaf camddealledig Cymru …
Y brecwast tradodiadol Cymreig (a sa neb i ddweud fel arall)! Am ganrifoedd ma plantos Cymru ‘di bod yn dringo’r mynyddoedd i hel y llus. Er mod i’m yn gweld llawar o neb yn dringo’r mynyddoedd rhagor (ddim i nol llus beth bynnag), dio’m yn reswm i beidio mwynhau’r brecwast gorau sydd yna: Crempogau llus. …
Cyfri’r dyddiau i’ch gwyliau nesaf yn y Med? Wel, mae gennyf i rywbeth bach i’ch cario chi drwy’r misoedd oer yma. Beth ydw i wedi bod yn chwarae efo’n ddiweddar, yw’r saws Canoldirol gorau sydd yna: Tapenade. Cewch y rysáit efo mesuriadau a chynhwysion isod.